29 Mehefin 2015
Annwyl
Carl
Ymchwiliad i dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yng Nghymru -
casgliadau
Diolch am
eich ymateb dyddiedig 12 Chwefror i fy llythyr blaenorol ynghylch
ymchwiliad y Pwyllgor i dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni.
Mae’r Pwyllgor wedi ystyried eich ymateb a’r
dystiolaeth a roddwyd iddo gan randdeiliaid, ac mae’n nodi
rhai o’i gasgliadau isod.
Strategaeth Tlodi Tanwydd
Dywedodd
rhanddeiliaid wrthym, er bod y dull gweithredu yn y Strategaeth yn
parhau’n ddilys, nid yw rhai o’r cynlluniau y cyfeirir
atynt yn bodoli bellach. Rydym yn credu ei bod yn bwysig bod y
Strategaeth mor gyfredol â phosibl, ac y dylai nodi’r
cynlluniau diweddaraf. Felly, er ein bod yn nodi nad oes gennych
ddim cynlluniau buan i adolygu’r Strategaeth, rydym yn falch
y byddwch yn ystyried y mater hwn. Rydym yn bwriadu parhau i
adolygu’r mater fel rhan o’n gwaith craffu parhaus ar
eich adran.
Grŵp
Cynghori’r Gweinidog ar Dlodi Tanwydd
Roedd y
dystiolaeth gan randdeiliaid o blaid cefnogi ailsefydlu
Grŵp
Cynghori’r Gweinidog yn amlwg, ac felly rydym yn siomedig
â’ch penderfyniad i beidio â gwneud hynny.
Nodwn fod cynrychiolwyr o ran tlodi tanwydd wedi’u cynnwys
fel aelodau o’r Grŵp Cynghori
Allanol ar Drechu Tlodi, fodd bynnag, rydym yn bryderus na fydd
tlodi tanwydd yn cael digon o amlygrwydd fel rhan o’r
grŵp cynghori
ehangach ar dlodi, yn enwedig gyda dim ond un cynrychiolydd
o’r maes penodol hwn.
Yn ychwanegol at ei brif ddiben, sef cynghori Llywodraeth Cymru,
dywedodd rhanddeiliaid wrthym fod y grŵp hefyd yn
cynnig cyfle pwysig i’r sector gwirfoddol, cyrff hawliau
defnyddwyr a chwmnïau ynni drafod materion penodol sy’n
ymwneud â thlodi tanwydd.
Wrth nodi eich safbwynt o ran adfer y
grŵp, rydym yn
argymell y dylai Llywodraeth Cymru hwyluso fforwm blynyddol, o
leiaf, ar gyfer pawb sydd â diddordeb, a rhanddeiliaid, i
drafod materion sy’n gysylltiedig â chamau i fynd
i’r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd
ynni yng Nghymru.
Strategaeth effeithlonrwydd ynni
Nodwn fwriad
Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth effeithlonrwydd ynni
newydd, a chroesawn eich ymrwymiad i hyn. Byddwch yn cofio, yn fy
llythyr blaenorol, dywedais fod cwmnïau ynni, cymdeithasau tai
a NEA Cymru i gyd wedi galw am well cydgysylltu rhwng Llywodraeth
Cymru a chynlluniau ar draws y DU, fel Rhwymedigaeth y Cwmnïau
Ynni (ECO).
Rydym yn edrych ymlaen at weld y strategaeth arfaethedig pan
fydd ar gael, ac rydym yn argymell y dylai’r Strategaeth hon
nodi sut y bydd y cydgysylltiad rhwng cynlluniau yn cael ei
wella.
Cynlluniau
Effeithlonrwydd Ynni
Fel y nodwyd
yn ein llythyr blaenorol atoch, rydym yn croesawu ymrwymiad parhaus
Llywodraeth Cymru i gyflawni ei gynlluniau effeithlonrwydd ynni.
Nodwn eich ymateb i’r gwelliannau a awgrymwyd i Nyth, ac
Arbed, a gyflwynwyd i’r Pwyllgor gan randdeiliaid, a
gobeithio y bydd y rhain yn cael eu hystyried wrth i’r
rhaglenni hyn gael eu gwerthuso’n barhaus. Nodwn farn
Llywodraeth Cymru fod y cynlluniau presennol wedi bod yn effeithiol
wrth fynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni mewn ardaloedd
gwledig, ond croesawn eich ymrwymiad i adolygu hyn, er mwyn edrych
a oes modd gwneud rhagor o welliannau. O ystyried nifer y
rhanddeiliaid a ddywedodd wrthym y gellid darparu’r rhaglenni
yn well mewn ardaloedd gwledig, credwn fod yr ymrwymiad hwn i
barhau i adolygu’r cynlluniau yn bwysig, a byddwn yn
ddiolchgar pe bai modd i chi ddiweddaru’r Pwyllgor am unrhyw
gynnydd a wneir yn hyn o beth.
Fel y gwyddoch, roeddem yn pryderu o glywed gan randdeiliaid am yr
effeithiau y gallai’r newidiadau i Rwymedigaeth y
Cwmnïau Ynni (ECO) eu cael yng Nghymru. Rydym yn
croesawu’r sylwadau a gyflwynwyd gan eich rhagflaenydd i
Lywodraeth y DU am y newidiadau hyn, a’r trafodaethau a
gafodd eich swyddogion gyda’r cwmnïau ynni
ynglŷn â
chyflwyno Rhwymedigaeth y Cwmnïau Ynni yng Nghymru. Gobeithiwn
y bydd trafodaethau a sylwadau o’r fath yn parhau yn y
dyfodol, er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yng Nghymru yn cael y budd
gorau posibl o Rwymedigaeth y Cwmnïau Ynni.
Data
Roeddem yn
falch o nodi, yn eich ymateb, fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu
cyhoeddi data newydd ar dlodi tanwydd, ac o nodi’ch ymrwymiad
i ariannu ymchwilydd arbenigol i weithio ym maes data ar gyflwr
tai.
Byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi roi gwybod i ni am y
cynnydd a wneir i weithredu hyn, ac am unrhyw ganfyddiadau a wneir
fel rhan o’r prosiect.
Dyled
Tanwydd
Er ein bod
yn cydnabod bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud o ran
lleihau dyled tanwydd yng Nghymru, rydym yn pryderu bod y cynnydd
yn parhau’n araf, ac nad ydyw i’w weld yn gyffredin.
Cododd rhanddeiliaid y mater o dlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig
fel maes pryder sylweddol.
Gofynnwn i chi barhau i graffu ar lefel y ddyled tanwydd yng
Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, a gobeithiwn weld
rhagor o gynnydd o ran gostwng y lefelau hyn.
Rydym yn
croesawu’r camau a gymerwyd hyd yma, gan y cwmnïau ynni,
i gefnogi cwsmeriaid yng Nghymru sydd mewn dyled tanwydd, ond rydym
yn parhau’n bryderus bod rhagor o ddyled tanwydd yng Nghymru
o’i gymharu â Lloegr a’r Alban. Roeddem hefyd yn
bryderus o glywed am y problemau a’r cyfyngiadau y gall
cwsmeriaid ar fesuryddion talu ymlaen llaw eu hwynebu’n
barhaus.
Roeddem yn falch o glywed, yn ystod ein sesiwn graffu gyda chi ar 4
Mawrth, y byddech yn trefnu i gwrdd â’r chwe phrif
gwmni ynni fel mater o frys.
Rydym yn argymell, yn ystod y cyfarfod hwnnw, eich bod yn nodi
wrthynt rai o’r materion pwysig a gododd yn ystod ein
hymchwiliad, gan gynnwys:
- eu polisïau o ran ymdrin â chwsmeriaid mewn dyled tanwydd;
- eu polisïau o ran asesu pa mor addas yw gosod mesuryddion talu ymlaen llaw ar gyfer cwsmeriaid sy’n agored i niwed;
- y rhwystrau y mae cwsmeriaid sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw, ac sydd am newid i ffyrdd eraill o dalu, yn eu hwynebu; a
- chyflwyno mesuryddion deallus yng Nghymru.
Byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi ddiweddaru’r Pwyllgor
am ganlyniadau’r trafodaethau hyn.
Diogelu Defnyddwyr
Yn ein
sesiynau craffu diweddar gyda chi, rydym wedi codi materion diogelu
defnyddwyr rhag cynlluniau effeithlonrwydd ynni twyllodrus, a
darparu cyngor a chymorth dibynadwy. Felly, rydym yn
croesawu’r ymrwymiad a wnaed gennych i sefydlu cynllun Cymru
Effeithlon, ac edrychwn ymlaen at adolygu llwyddiant y gwasanaeth
hwn wrth iddo ddatblygu.
Mae tlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni o ddiddordeb
mawr i’r Pwyllgor, a byddwn yn parhau i fonitro’r
cynnydd a wneir yn y meysydd hyn, gan gynnwys drwy sesiynau craffu
cyffredinol gyda’r Gweinidog.
Yn gywir
Alun Ffred Jones AC
Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd